Y Gweilch a’r Urdd yn dathlu penwythnos Gŵyl Ddewi

Bydd cannoedd o blant ysgol, gyda chymorth yr Urdd, yn helpu’r Gweilch i ddathlu penwythnos Gŵyl Ddewi yn y gêm PRO12 bwysig yn erbyn Leinster.

 

Bydd y rhanbarth yn croesawu enillwyr y gynghrair llynedd dydd Gwener 27ain o Chwefror, dau ddiwrnod cyn Gŵyl Ddewi ac i ddathlu’r achlysur bydd yr Urdd yn cynnig hwn fel digwyddiad arbennig i’w haelodau yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont.

Bydd disgyblion o bron i 30 o ysgolion cyfrwng Cymraeg ledled y tri awdurdod yn dod at ei gilydd i greu’R côr mwyaf welwyd erioed yn y Liberty, i berfformio cyn y gêm a hanner amser, tra bydd y Gweilch yn nodi’r achlysur trwy wisgo bathodyn Cennin Pedr arbennig ar eu crys.

Bydd Mistar Urdd hefyd yn bresennol yn y gêm fawr, yn herio Ozzie the Osprey ym Mharth-O, sef man arbennig o fewn y stadiwm i deuluoedd gasglu a mwynhau gweithgareddau cyn y gêm.

Yn ôl Cai Griffiths sydd yn chwarae i’r Gweilch, “Mae’n wych fod y Gweilch a’r Urdd yn cydweithio ar y digwyddiad yma.   Mae pawb sydd wedi eu magu yng Nghymru gyda lle i Mistar Urdd a’r Urdd  yn agos i’w calonnau felly mae’r ffaith y bydd ef ac aelodau o bob cwr o’r rhanbarth yn y stadiwm yn wych.  Rydym yn edrych ymlaen i groesawu pawb yma ar gyfer y gêm yn erbyn Leinster.”

Mae gan yr Urdd dros 5,000 o aelodau  a 25 clwb chwaraeon o fewn y rhanbarth.

Dywedodd Aled Lewis, Swyddog Datblygu Chwaraeon y Rhanbarth, “Mae’n wych fod aelodau’r Urdd yn cael cyfle i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda thîm y Gweilch.  Ein gobaith ni yw y bydd dilynwyr y Gweilch yn dysgu am waith yr Urdd yn yr ardal ac yn cael blas ar rai o’r cyfleodd diwylliannol ac ym myd chwaraeon yr ydym ni yn eu cynnig.”

Roedd Suki Hayer, Rheolwr Gwerthiant Tocynnau y Gweilch, hefyd yn falch iawn fod yr Urdd yn gallu bod yn bresennol yn ystod y gêm hon, gan ddweud y bydd yn ddigwyddiad arbennig.

“Rydym yn falch iawn o allu croesawu cynifer o aelodau’r Urdd, eu teuluoedd a’u ffrindiau i’r gêm bwysig hon, i’n cynorthwyo i ddathlu Dydd Gŵyl Ddewi” dywedodd.

“Gan ein bod eisoes wedi mwynhau perfformiad gan gôr o ysgolion Castell Nedd Port Talbot ar ddau achlysur yn y gorffennol, brofodd yn boblogaidd iawn, roedd hwn i weld fel y cam naturiol ymlaen.  Gyda chymorth yr Urdd, rydym yn ei godi un lefel yn uwch.

“Bydd gan y côr swyddogaeth bwysig ar y noson, yn ein helpu i greu awyrgylch ysbrydoledig i hybu ein tîm i ennill y gêm bwysig hon.  Bydd hefyd wrth gwrs yn ein cynorthwyo i ddathlu Cymru a diwylliant Cymreig mewn steil, ychydig ddyddiau cyn Gŵyl Ddewi.  Bydd yn ddigwyddiad gwych a’r gobaith yw y bydd y cyntaf o nifer, ac y gall fod yn ddigwyddiad blynyddol.”