Captain Jac Morgan of Wales rallies his team

2 Ospreys named in Wales team to face Ireland in the Guinness Six Nations

Senior men’s head coach Matt Sherratt has named the Wales team to play Ireland in the third round of the 2025 Guinness Six Nations at a sold-out Principality Stadium, Cardiff on Saturday 22 February (KO 14.15h GMT, live on BBC and S4C). Jac Morgan captains the side from blindside flanker, with Gareth Thomas named on the bench. 

Ellis Mee is named on the wing for his first cap and will become the 1,211th men’s international to represent Wales.

Captain Jac Morgan starts at blindside flanker. Tommy Reffell is at openside flanker, his first start of the 2025 Championship, and Taulupe Faletau completes the back row at No. 8.

In the front row Nicky Smith is selected at loosehead prop and makes his first start of the 2025 Guinness Six Nations, as does Elliot Dee who is at hooker. WillGriff John, who will make his Six Nations debut on Saturday, is tighthead prop for the match.

Will Rowlands and Dafydd Jenkins pair up in the second row. Tomos Williams is named at scrum-half.

Gareth Anscombe and Max Llewellyn, who were called up to the Wales squad this week, make their first appearances of the 2025 Guinness Six Nations at fly-half and centre respectively.

Ben Thomas partners Llewellyn in the midfield.

Tom Rogers joins debutant Mee on the wing, while Blair Murray completes the starting XV at fullback.

Jarrod Evans is named among the replacements and could make his first appearance for Wales since summer 2021. Rhodri Williams, and Joe Roberts are the other replacement backs.

Evan Lloyd, Gareth Thomas, Henry Thomas Teddy Williams and Aaron Wainwright provide the forward cover.

Sherratt said: “We’re looking forward to the challenge of facing Ireland. We have spoken this week about being brave, but not reckless and making sure everyone knows their roles. We also know that keeping our discipline will be huge.

“Everyone is excited for our first home game of the Six Nations. The atmosphere Wales fans create at Principality Stadium is incredible and playing at home is something the players really look forward to.”
---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Matt Sherratt wedi enwi ei dîm i herio’r Gwyddelod yn nhrydedd rownd o gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 ddydd Sadwrn yr 22ain o Chwefror, (14.15pm yn fyw ar S4C a’r BBC).

Mae pob tocyn ar gyfer yr ornest yn Stadiwm Principality wedi ei werthu.

Bydd yr asgellwr Ellis Mee yn cynrychioli ei wlad am y tro cyntaf – ac ef fydd cap rhif 1,211 yn hanes gemau rhyngwladol Cymru.

Jac Morgan fydd y capten unwaith eto ond bydd Tommy Reffell yn dechrau ei gêm gyntaf o Bencampwriaeth eleni yn flaen-asgellwr ochr agored. Yr wythwr Taulupe Faletau fydd yn cwblhau’r drindod yn y rheng ôl i wynebu’r Gwyddelod.

Yn y rheng flaen, Nicky Smith fydd yn dechrau’n brop pen rhydd a’i gyd-brop fydd WillGriff John - fydd yn chwarae ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Elliot Dee sydd wedi ei ddewis yn fachwr.

Parhau mae partneriaeth Will Rowlands a Dafydd Jenkins yn yr ail reng. Felly hefyd Tomos Williams yn safle’r mewnwr.

Mae’r ddau chwaraewr o glwb Caerloyw, Gareth Anscombe a Max Llewellyn wedi eu dewis yn faswr ac yn ganolwr - wythnos yn unig ers iddynt gael eu galw i’r garfan gan Matt Sherratt

Ben Thomas fydd yn cadw cwmni i Llewellyn yng nghanol y cae.

Tom Rogers (asgell) a Blair Murray (cefnwr) fydd yn cwblhau’r tri ôl ynghŷd â’r cap newydd Ellis Mee.

Mae Jarrod Evans wedi ei enwi ymhlith yr eilyddion – ac os y caiff ei alw o’r fainc, bydd yn ymddangos dros ei wlad am y tro cyntaf ers haf 2021. Rhodri Williams a Joe Roberts sydd wedi eu dewis fel eilyddion o safbwynt yr olwyr.

Evan Lloyd, Gareth Thomas, Henry Thomas, Teddy Williams ac Aaron Wainwright yw’r blaenwyr sydd wedi eu dewis ar y fainc.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Matt Sherratt: “Ry’n ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr at yr her o wynebu Iwerddon. Mae’n rhaid i ni fod yn ddewr ac yn drefnus - gyda phob unigolyn yn gwybod beth sy’n ddisgwyliedig ganddyn nhw. Allwn ni ddim bod yn esgeulus ac mae’n hanfodol ein bod ni’n cadw’n disgyblaeth.

“Mae pawb yn gyffrous i gael chwarae gartref am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth eleni. Mae cefnogwyr Cymru’n creu awyrgylch anhygoel yn Stadiwm Principality ac mae’r chwaraewyr yn awchu i brofi hynny ddydd Sadwrn.”


Wales team v Ireland | Tîm Cymru v Iwerddon  

15. Blair Murray (Scarlets – 5 caps)
14. Tom Rogers (Scarlets – 7 caps)
13. Max Llewellyn (Gloucester Rugby / Caerloyw – 5 caps)
12. Ben Thomas (Cardiff Rugby | Caerdydd – 9 caps)
11. Ellis Mee (Scarlets – uncapped | heb gap)
10. Gareth Anscombe (Gloucester Rugby / Caerloyw – 39 caps)
9. Tomos Williams (Gloucester Rugby | Caerloyw – 61 caps)
1. Nicky Smith (Leicester Tigers | Caerlŷr – 51 caps)
2. Elliot Dee (Dragons | Dreigiau – 53 caps)
3. WillGriff John (Sale Sharks – 2 caps)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 38 caps)
5. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 20 caps)
6. Jac Morgan (Ospreys | Gweilch – 20 caps) – captain | capten
7. Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr – 24 caps)
8. Taulupe Faletau (Cardiff Rugby | Caerdydd – 105 caps)

Eilyddion

16. Evan Lloyd (Cardiff Rugby | Caerdydd – 7 caps)
17. Gareth Thomas (Ospreys | Gweilch – 37 caps)
18. Henry Thomas (Scarlets – 6 caps)
19. Teddy Williams (Cardiff Rugby | Caerdydd – 3 caps)
20. Aaron Wainwright (Dragons | Dreigiau – 54 caps)
21. Rhodri Williams (Dragons | Dreigiau – 7 caps)
22. Jarrod Evans (Harlequins – 8 caps)
23. Joe Roberts (Scarlets – 2 caps)