Gar Thomas takes contact

3 Ospreys named in Wales squad to face Italy

Senior men’s head coach Warren Gatland has named the Wales team to play Italy in the second round of the 2025 Guinness Six Nations at Stadio Olimpico, Rome on Saturday 8 February KO 14.15h GMT (15.15 CET), live on ITV and S4C.

Taulupe Faletau is named at No. 8 and will make his first appearance for Wales since the 43-19 win against Georgia at Rugby World Cup 2023.

Captain Jac Morgan (openside flanker) and James Botham (blindside flanker) join Faletau in the back row.

Eddie James will make his Guinness Six Nations debut. He starts alongside Nick Tompkins in the Wales midfield.

Hooker Evan Lloyd and tighthead prop Henry Thomas make their second Test starts for Wales with Gareth Thomas again at loosehead.

Will Rowlands and Dafydd Jenkins continue their second-row partnership, Tomos Williams (scrum-half) and Ben Thomas (fly-half) are again at half back.

Wings Josh Adams and Tom Rogers and fullback Liam Williams comprise the Wales back three.

Among the Wales replacements Elliot Dee, Nicky Smith, Keiron Assiratti, Freddie Thomas and Aaron Wainwright provide the forward cover.

Rhodri Williams, Dan Edwards and Blair Murray are the replacement backs.

Gatland said: “This has been an important week with a lot of hard work put in during training.

“We want to be accurate and disciplined on Saturday. It’s about our execution and how we manage the game.

“We know Italy are a quality side with physical players and are looking forward to a good contest. We’re excited for the challenge on Saturday.”

-------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi enwi ei dîm i chwarae'r Eidal yn ail rownd gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 yn y Stadio Olimpico, Rhufain ddydd Sadwrn 8 Chwefror (2.15pm, yn fyw ar S4C ac ITV).

Bydd yr wythwr Taulupe Faletau yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ers y fuddugoliaeth o 43-19 yn erbyn Georgia yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2023.  

Y capten Jac Morgan (blaenasgellwr ochr agored) a James Botham (blaenasgellwr ochr dywyll) fydd yn ymuno â Faletau yn y rheng ôl.

Bydd Eddie James yn chwarae ei gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad a’i bartner yng nghanol cae fydd Nick Tompkins.

Mae'r rheng flaen, sef y bachwr Evan Lloyd, y prop pen tynn Henry Thomas a’r prop pen rhydd Gareth Thomas yn dechrau unwaith eto’r wythnos hon.  

Felly hefyd bartneriaeth Will Rowlands a Dafydd Jenkins yn yr ail-reng, a’r haneri Tomos Williams (mewnwr) a Ben Thomas (maswr).

Mae’r tri ôl yn aros yr un fath hefyd gyda Liam Williams yn gefnwr a Josh Adams a Tom Rogers ar yr esgyll.

Ymhlith eilyddion Cymru yn y blaenwyr, mae Elliot Dee, Nicky Smith, Keiron Assiratti, Freddie Thomas ac Aaron Wainwright ar gael i gamu o’r fainc.

Rhodri Williams, Dan Edwards a Blair Murray yw'r opsiynau o safbwynt yr olwyr.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: "Mae hon wedi bod yn wythnos bwysig i ni fel carfan ac mae pawb wedi gweithio’n arbennig o galed wrth ymarfer.

"Ry’n ni eisiau bod yn ddisgybledig ac yn glinigol ddydd Sadwrn ac mae’n rhaid i ni reoli agweddau allweddol y gêm.

"Ry’n ni'n gwybod yn iawn bod yr Eidal yn dîm o wir safon a’u bod yn garfan gorfforol iawn hefyd.

“Mae gêm ddydd Sadwrn yn tynnu dŵr i’r dannedd ac ‘ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr her sydd o’n blaenau.”


Wales team v Italy | Tîm Cymru v Yr Eidal

15. Liam Williams (Saracens | Saraseniaid – 93 caps)
14. Tom Rogers (Scarlets – 6 caps)
13. Nick Tompkins (Saracens | Saraseniaid – 39 caps)
12. Eddie James (Scarlets – 3 caps)
11. Josh Adams (Cardiff Rugby | Caerdydd – 60 caps)
10. Ben Thomas (Cardiff Rugby | Caerdydd – 8 caps)
9. Tomos Williams (Gloucester Rugby | Caerloyw – 60 caps)
1. Gareth Thomas (Ospreys | Gweilch – 36 caps)
2. Evan Lloyd (Cardiff Rugby | Caerdydd – 6 caps)
3. Henry Thomas (Scarlets – 5 caps)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 37 caps)
5. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs | Caerwysg – 20 caps)
6. James Botham (Cardiff Rugby | Caerdydd – 17 caps)
7. Jac Morgan (Ospreys | Gweilch – 19 caps) – captain | capten
8. Taulupe Faletau (Cardiff Rugby | Caerdydd – 104 caps)

Eilyddion

16. Elliot Dee (Dragons | Dreigiau – 52 caps)
17. Nicky Smith (Leicester Tigers | Caerlŷr – 50 caps)
18. Keiron Assiratti (Cardiff Rugby | Caerdydd – 11 caps)
19. Freddie Thomas (Gloucester Rugby | Caerloyw – 2 caps)
20. Aaron Wainwright (Dragons | Dreigiau – 53 caps)
21. Rhodri Williams (Dragons | Dreigiau – 6 caps)
22. Dan Edwards (Ospreys | Gweilch – 1 cap)
23. Blair Murray (Scarlets – 4 caps)