Morgan Morris v Sharks 2

Bois Ifanc: Canran y Garfan

Basau 56% o garfan y Gweilch dal gallu prynu tocyn dan 25 o’n swyddfa docynnau, hynny yw, petai nhw ddim yn chwarae ar y pryd.

Mae 26% yn 22 blwydd oed neu’n iau. Ac nid chwaraewyr yr academi sydd yn y ffigyrau yna, ond chwaraewyr sy’n ymddangos yn rheolaidd dros y Gweilch. Yn erbyn Ulster penwythnos diwethaf, er enghraifft, roedd pedwar o’r pum ôl yn y pac yn 23 neu’n iau (Rhys Davies 23; Will Griffiths 22; Jac Morgan 21; Morgan Morris 23). O’r pedwar yna, mae dau wedi cael eu galw i ymuno â charfan Cymru, cafodd un wobr Seren y Gêm yn erbyn Munster, a’r llall Seren y Gêm yn erbyn Ulster.

Rhys Davies v Ulster

Nid yn unig eu hoedran sy’n codi calon, ond hefyd y ffaith eu bod nhw i gyd yn dod o’r rhanbarth yn wreiddiol. Rhywbeth mae’r prif hyfforddwr, Toby Booth, wedi bod yn lleisiol iawn am fagu ers cael ei benodi.

Ac mae cipolwg sydyn ar garfan y Gweilch yn datgelu does neb gwell i fentora’r genhedlaeth nesa a pharhau’r diwylliant o fagu chwaraewyr ifanc i fod yn sêr. Pwy gwell i arwain y ffordd i Reuben Morgan-Williams (23) a Harri Morgan (21) na Rhys Webb?

Pwy sydd â mwy o brofiad a’r agwedd gywir nac Alun Wyn Jones a Bradley Davies i dywys Rhys Davies a Jack Regan (24)?

Justin Tipuric a Dan Lydiate sydd ar gael i addysgu Jac Morgan a Will Griffiths.

O dan adain Gareth Anscombe a Stephen Myler mae Josh Thomas (21) a Cai Evans(22); ac yn Owen Watkin, George North, a Dan Evans mae tiwtoriaid penigamp ar gyfer chwaraewyr megis Joe Hawkins (19), Keelan Giles (23), a Mat Protheroe (25).

Yn y rheng flaen, mae’r cyfuniad o Rhodri Jones, Nicky Smith, Gareth Thomas, Sam Parry, a Tomas Francis yn chwaraewyr rhyngwladol oll; yn gosod esiampl heb ei ail ar gyfer Garyn Phillips (20), Dewi Lake (22), a Rhys Henry (23).

Mae dyfodol disglair gan y chwaraewyr ifanc yma, ac mae’n argoeli’n dda i’r tîm bod gymaint o nerth ymysg ieuenctid y garfan, a digon o brofiad i’w tywys i’r brig.

 

YN ÔL I’R RHAGLEN