Ymrwymodd Dewi ei ddyfodol i’r Gweilch wythnos yma, gan arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb. Dyma’r bachwr yn trafod amrywiad o bynciau, o ddefnyddio’r Gymraeg i chwarae’r gitâr gyda maswr ifanc y Gweilch.
Datblygiad y Gweilch ers ddechrau’r tymor a chystadleuaeth yn y rheng flaen
“Mae cystadleuaeth yn y rheng flaen yn dda, mae’n gyrru safon nid just yn safle’r bachwr, ond y rheng flaen i gyd. Mae pawb yn cystadlu am le yn y garfan. Mae hyny mynd i wneud y Gweilch fel tîm yn well. Healthy competition fel ma’ nhw’n eu ddweud; does neb yma yn meddwl bod hawl ‘da nhw bod dim byd llai ‘na rhagorol bob dydd, neu fydd rhywun arall yn cymryd eu lle. Mae’n sefyllfa wych.
“Mae’n hawdd i ddweud bod y tîm yn datblygu, yn enwedig ar ôl ennill ychydig o gemau. Ond y gwahaniaeth fwyaf mae pobl yn gweld o llynedd yw’r newid mewn agwedd a meddylfryd, a sut rydyn ni’n rhyngweithio gyda’n gilydd. Mae pawb eisiau cystadlu gyda’n gilydd ac ar y penwythnos, ennill a gweithio dros ein gilydd, dros y tîm hyfforddi, ac wrth gwrs, ein cefnogwyr ledled y rhanbarth.
Defodau cyn gêm
“Cyn gêm, dwi wastad gorfod eilio fy marf. Wastad yn clean shaven. Hyd yn oed os cefais i shave y noson gynt, dwi’n cael un noson cyn y gêm. Wrth gwrs, dwi’n gwrando ar gerddoriaeth hefyd, ond mae pawb yn gwneud hyny. Dim byd allan o’r cyffredin fel arall, cyn belled bo’ nig yd wedi gwneud ein gwaith cartref a wedi paratoi, dy’ ni fel arfer yn eithaf hamddenol cyn y gêm.
Defnyddio’r Gymraeg
“Mae defnydd y iaith yn tyfu. Mae gemau yn cael eu darlledu ar S4C yn y Gymraeg, mae pethau ar y we yn hybu’r iaith hefyd. Mae chwaraewyr fel Gareth Thomas yn gwneud cyfweliadau yn y Gymraeg a ma fe’n hapusach yn gwneud nhw yn iaith ei hun. Mae bendant yn tyfu a mae’n bwysig i ni barhau i’w ddefnyddio a’u hybu. Mae fy ngyrfa i ym myd rygbi wedi rhoi fwy o hyder i mi ddefnyddio’r iaith yn amlach a mae digon o cyfleodd i mi gael gwneud hyny. Dwi’n meddwl hefyd bod gweld chwaraewyr rygbi proffesiynol yn siarad Cymraeg yn rhoi ysbrydoliaeth i bobl ifanc i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd.
“Roedd yna lot o Gymraeg yng ngharfan Cymru D20, ond mae’n grwp fwy amrywiol gyda’r Gweilch felly yn naturiol mae fwy o newid iaith yma.
Hoff atgof
“Curo’r All Blacks D20. Mae lot o atgofion melys ‘da fi ond does dim byd wedi topio hyn eto. Wrth gwrs, roedd gwisgo crys y Gweilch am y tro cyntaf yn sbesial, a mae’n bleser cael ei wisgo bob tro; ond hyd yma roedd hyny’n gyfle unwaith mewn bywyd. Ond gobeithio, bydd mwy i ddod!
Ymlacio i ffwrdd o rygbi
“Dwi’n hoffi chwarae golff, ond mae’n anodd ar y funud gyda popeth ar gau. Ma’ fi a Cai [Evans] yn byw gyda’n gilydd, felly ‘dyn ni’n crwydro yn aml, mynd am dro, ymweld â’r traeth a chael bach o laugh. Dwi’n chwarae’r gitâr hefyd, sy’n helpu ymlacio. Ond unrhywbeth sy’n helpu ni cadw ein meddyliau oddi ar y rygbi; gwylio pêl droed a chwaraeon, adferiad gweithredol ac yn y blaen.
Dwi’n credu mae’n bwysig cael amser bant o rygbi weithiau. Mae’n wir gyda unrhyw swydd; mae’n bosib wneud gormod, a gweithio’n rhy galed, a mae’n cael effaith negyddol arnoch chi yn feddyliol ac yn gorfforol. Petawn ni’n canolbwyntio ar rygbi 100% o’r amser, bydden ni i gyd wedi blino’n lân yn fuan. Dwi’n treulio bron bob dydd o’r wythnos yn meddwl am rygbi, erbyn y penwythnos, ydw i rili moyn meddwl am rygbi eto? Mewn unrhyw gyrfa, mae angen cael amser i ymlacio a gorffwyso, ond yn enwedig mewn amgylchedd mor dwys a hwn.