Ifan Phillips v Dragons

Cymry ar y Cae: Ifan Phillips

Cafodd Phillips lwybr anghonfensiynol i’r Gweilch, gan chwarae ei rygbi cynnar ar ochr arall pont Llwchwr.

“Roedd fy siwrne i i garfan y Gweilch bach yn wahanol i lot o’r fois sydd yma ar hyn o bryd. Chwaraeais i lot gyda Crymych, ac ar ôl gorffen gyda’r tîm ieuenctid, es i at Cwins Caerfyrddin a chwarae gyda nhw am flwyddyn. Wedyn ymlaen at Gastell Nedd a ches i gyfle gyda Cymru Dan 20, a dyna oedd y siwrne wedyn, i fynd mewn at garfan y Gweilch.

“Es i ddim drwy lwybr yr Academi, sydd yn wahanol i’r arfer, ond dwi’n falch iawn o sut ‘dw i wedi cyrraedd yma a ble ydw i nawr.”

Ifan Phillips Wales U20

Wrth sôn am gymryd ei gyfle gyda’r Gweilch, soniodd Phillips am athroniaeth y prif hyfforddwr ac uchelgeisiau’r blaenwyr.

“Mae Toby [Booth] yn un sy’n credu’n gryf mewn datblygu chwaraewyr ifanc a chwaraewyr sydd yn y rhanbarth yn barod. Ac os mae’r chwaraewr ifanc yn rhoi ei law e lan tra’n hyfforddi, mae’n cael y cyfle, a mae hyny’n beth grêt.”

“Ni moyn cael ein hadnabod fel pac sy’n ddinistriol ac yn gryf. Ni’n hala lot o amser ar bethau fel y ‘sgarmes symudol a sgryms; felly mae’n bendant yn arf sydd gyda ni a ni’n falch iawn gyda’r ffordd mae’n mynd ar hyn o bryd.”

 

Ifan Phillips
"Ni moyn cael ein hadnabod fel pac sy’n ddinistriol"

Yn ogystal â llwybr anghyffredin i rygbi proffesiynol, cymerodd Phillip lwybr troellyd i safle’r bachwr hefyd.

“Stori digri i chi, maswr oeddwn i i ddechrau, yn mynd yn ôl sawl blwyddyn nawr, wedyn es i mas i ganol y cae fel canolwr. Nes i rhoi bach mwy o bwysau ymlaen adeg hyny felly es i yn ôl wedyn i’r rheng flaen. Dwi’n gyfforddus iawn yn y safle yma nawr a gyda dad [Kevin Phillips] yn fachwr hefyd, dwi’n credu bod e’n hapus i weld fi yn y safle ‘ma hefyd.”

Bu Tad Phillips yn ffigwr enwog ym myd rygbi Cymru, yn arwr yng Nghastell-nedd ond hefyd yn gapten ar dîm rhyngwladol Cymru yn y 90au.

“Cafodd dad ddylanwad mawr arna fi, wrth gwrs, fe oedd yn hyfforddi fi yr holl fordd lan nes i mi adael Crymych. ‘Dwi wedi dysgu lot ganddo fe.”

 

Yn ogystal â rygbi, mae’r Gymraeg yn rhywbeth sydd yng ngwaed y bachwr.

“’Dyn ni’n bendant yn cael cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn y garfan. I fod yn onest, sai’n meddwl dwi’n siarad gair o Saesneg gyda Gareth [Thomas]; mae’n brilliant cael grwp yma ble mae nifer fawr yn siarad Cymraeg. Mae ‘na lawer o staff yn y Gweilch sy’n siarad Cymraeg hefyd, sy’n braf i’w glywed, a dwi’n defnyddio’r Gymraeg gymaint a dwi gallu.

“Mae’n dod yn naturiol i mi, fel lot o’r bois arall sy’n dod o gefndir Gymraeg, a’r mwya’ ni gallu defnyddio’r iaith y gorau gyd.”