Yn ail bennod ein cyfres o broffiliau ar ddyfarnwyr ifanc ledled y rhanbarth, dyma ddarn ar ddyfarnwr o Benycae ger Abercraf, Steffan Edwards.
Cychwynodd Steffan ar ei daith fel dyfarnwr deng mlynedd yn ôl fel bachgen 16 blwydd oed. Cafodd Steffan ei eni â chyflwr scoliosis a oedd y natal ef rhag chwarae rygbi cystadleuol, ond roedd yr awch ‘da fe i gyfranu i’r byd rygbi.
“Rydw i dal i hyfforddi gyda thîm Abercraf, a ma’n ffrindiau i i gyd yn chwarae. Yn anffodus dwi ddim yn cael cymryd rhan yn gystadleuol, ond ‘dw i dal yn rhan o’r gymuned ac yn mwynhau bod allan ar y cae, ond fel y dyn yn y canol gyda’r chwiban.
“Dwi’n mwynhau cyfathrebu ar y cae, ac ambell i dro gaf ddefnyddio’r iaith wrth reffio hefyd. Mae ‘na lwyth o ddyfarnwyr sy’n siarad Cymraeg, ac mae’n braf weithiau cael tîm o swyddogin i gyd yn siarad yn y Gymraeg.
“Dwi’n lefel tri nawr, ac yn dal i gael fy asesu ar fod yn ddyfarnwr yn yr Uwchgynghrair, tra dwi bennaf yn rheoli gemau’r Bencampwriaeth. Ond dwi’n ifanc o hyd, a gyda llwyth o brofiad, felly dwi’n edrych ymlaen at y dyfodol a chael rhagor o brofiadau dros y blynyddoedd i ddod.”
Mae digon o brofiadau difyr yng ngyrfa Steffan, fodd bynnag, wrth iddo ddatgelu un profiad chwithig yn gynnar yn ei yrfa.
“Dwi’n cofio teithio i ddyfarnu gêm yn Llantwit Fardre. Roedd popeth yn mynd yn wych, y ddau dîm ar y cae, barod i ddechrau’r gêm… yna’n sylweddoli fy mod wedi gadael fy chwiban yn yr ystafell newid. Roedd rhaid i mi gael un o’r bois i ddod lawr gyda allwedd i ddadgloi’r ystafelloedd newid a chodi’r shutters i gyd. Pan ddes i nôl fyny at y cae, roedd pawb yn chwerthin arna i.
“Roedd hi’n gêm dda, a maen nhw’n bobl cyfeillgar iawn yno, ond ces i ychydig o jôcs ar ddiwedd y gêm!”
Mae Steffan yn barod wedi cael profiadau cofiadwy iawn, megis rhedeg yr ystlys yn rownd derfynol y cwpan SWALEC yn y stadiwm genedlaethol.
“Roedd hi’n neis bod mas ar y cae yno. A chefais gyfle eto i fod mas ar y cae yn y stadiwm ar ôl cael fy newis fel y pedwerydd swyddog ar gyfer gêm gyfeillgar rhwng Cymru ag Iwerddon cyn Cwpan Rygbi’r Byd 2015. Roedd hi’n anhygoel cael bod ar y cae yn canu’r anthem.
“Roeddwn i ar y tîm dyfarnu ar gyfer gêm Cymru yn erbyn yr Alban hefyd. Doedd hi ddim cweit yr un peth, gan mai ym Mharc y Scarlets roedd y gêm a dim torf yna chwaith.”
Meddai Steffan bod ef yn eithaf ffodus mewn ffordd, ei fod wedi manteisio o gael profi rygbi o safbwynt y chwaraewyr wrth ymarfer yn wythnosol â chlwb rygbi Abercraf, yn ogystal a chael ei gyflwyno i ddyfarnu yn ifanc.
“Mae clwb rygbi Abercraf yn bwysig iawn i mi. Rydych chi’n aml yn clywed am glwb rygbi cyntaf chwaraewyr, ond mae’n arbennig i ddyfarnwyr hefyd. Mae’n hanfodol cofio’ch gwreiddiau a welwch chi bod y chwaraewyr a dyfarnwyr gorau wastad yn falch iawn o’u gwreiddiau.
Mae un atgof yn dod i’r meddwl i Steffan pan mae’n meddwl am pwysicrwydd eich clwb cyntaf lleol:
“Roeddwn i ar y tîm dyfarnu un tro lawr yn y Liberty gyda’r Gweilch yn cael profiad. Nigel Owens oedd yn y canol y dydd hwnw, a gofynodd e fi mi asesu studs y chwaraewyr i gyd. Pan nes i gyrraedd Adam Jones, sydd wrth gwrs yn gynt o Abercraf ei hun, cymerodd e olwg arna i a gofyn ‘What the hell are you doing here?’ a doedd gen i ddim ateb iddo fe! Mae’n enghraifft neis o ba mor glos yw’r gymuned a nad yw’r lleoliad na’r amgylchedd yn newid dim.”
Wrth drafod y llu o ddyfarnwyr ifanc yng Nghymru, roedd Steffan yn meddwl bod wastad angen rhagor o ddawn yn rhengoedd y swyddogion.
“Fy nghyngor i i unrhywun sydd am rhoi cynnig iddi yw just cer amdani. Byddwch yn gwneud camgymeriadau di ri i gychwyn, ond cymerwch hi fesyl gêm a pwyll bia hi. Mae pawb eisiau bod y Nigel Owens nesaf, ond mae’n waith caled; ond does neb gallu’ch beirniadu chi am geisio’ch gorau. Rhowch 100% i bob ymdrech a bydd y cyfleodd yn agor ar eich cyfer.
"Dwi’n cofio bod yn yr academi rhai blynyddoedd yn ôl, weithiau rydych chi’n cael eich gollwng, weithio rydych chi’n mynd ymhellach. Ond yn bwysigach byth, mwynhewch y profiad. Mae’n hawdd anghofio weithiau mae pwrpad rygbi yw i gael hwyl, a mae hyny’n wir i’r dyfarnwyr hefyd.
“Fyddai’n aml yn dychwelyd gartref ar ôl dyfarnu gêm, ac yna’n mynd allan am beint neu ddwy gyda carfan Abercraf. Er mor broffesiynol mae’r gêm yn mynd, mae’r elfen gymdeithasol o rygbi yn bwysig, ac mae’n ymestyn i’r dyfarnwyr a swyddogion hefyd.”