Dyn ni’n dysgu gyda 'Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe'
We’re learning with 'Learn Welsh - Swansea Bay Region'
This season, we’re on a mission to improve our Welsh skills and use the language more across our club. We’ve teamed up with Learn Welsh - Swansea Bay Region who are providing weekly Welsh lessons to Ospreys staff.
After one term, we’ve covered the basics (including plenty of rugby terminology!) and set personal and business targets. These include ‘understand what’s being said when players give Welsh language interviews’, ‘include more Welsh in our social media content’ and ‘always ask in Welsh when doing the tea round!’
When CEO Lance Bradley joined the club in January 2024, he expressed an interest in learning the language. “I wanted to show that I was serious about taking on my role at Ospreys, and part of that included speaking the language. It means I can connect with more supporters and engage with Welsh language media, which is very important to me.”
This resonated with other staff members, particularly in the Marketing and Communications team. We’ve had plenty of Welsh speakers in the Ospreys office over the years, but currently don’t have any fluent speakers on our team. Despite this, we want to make sure that the Welsh language still plays an important role in our club identity. As lessons have progressed, we’re already feeling more confident in using Welsh across our content thanks to the support from Learn Welsh - Swansea Bay Region.
‘We’re really thankful to Learn Welsh - Swansea Bay Region for their support on our journey to improving our Welsh skills across the club,” said Lance. “They’ve been a fantastic partner and we’re looking forward to developing our relationship alongside our language skills!”
“Collaborating with local employers and workplaces is a key part of our mission,” said Iestyn Llwyd, Head of Learn Welsh - Swansea Bay Region. “Thanks to funding from the Work Welsh scheme provided by the National Centre for Learning Welsh, we’re able to offer Welsh language workplace training to a wide range of organisations. Employers like the local councils, the Health Board, and the DVLA have already taken advantage of similar opportunities for their workforces.”
“We’re now thrilled to deliver these sessions to Lance and his team at the Ospreys, helping to develop practical, job-specific Welsh language skills. Also at a more strategic level, we’re also able to support the Ospreys in their aim to develop the use of Cymraeg not only as a means of expressing the club’s identity, but also as a visible, functional and a natural part of everyday communication and activities."
Development Officer and course tutor Emyr Jones added: "The New Year is the perfect time for new challenges, like learning Welsh. To mark this new partnership, we’re offering a free evening online Welsh taster session for all Ospreys fans on January 15th. It’s a great chance to take that first step, and we hope it inspires as many rugby fans as possible to make 2025 the year they either start learning, or take steps to gain more confidence in their use of Welsh”.
This week, Ospreys take on Newcastle Falcons in the pool stages of the EPCR Challenge Cup. As we look forward to a big Anglo-Welsh clash, and on the eve of the Hen Galan (or the Old New Year), it felt like the perfect time to celebrate our commitment to improving our Welsh.
You may have already noticed we’re using more Welsh when promoting the game, and it won’t stop there. Keep an eye on our social media channels this week for more Welsh language content perfect for beginners. We’ll even be roping in some of our Welsh speaking players to help…
On game day, there will be an increased amount of Welsh in use across the stadium and Learn Welsh Swansea Bay Region will be joining us to tell Ospreys supporters more about how they can get involved in learning the language.
If you’re interested, you can find out more on Learn Welsh - Swansea Bay Region’s website or sign up here for a special online taster lesson just for Ospreys supporters on Wednesday 15th January at 6:30pm.
Did You Know?
The Hen Galan (the traditional or Old New Year) is celebrated on January 12th or 13th. There are many traditions associated with the Calan event including: the Mari Lwyd roaming revellers; and the ritual of children singing greetings door-to-door in exchange for Calennig gifts.
Until the 1830s, there were also some Calan-related sporting rituals, including the playing of ‘Cnapan’ in areas of West Wales – a spirited and brutally physical ball-kicking game (seen as a precursor to modern rugby).
One such example was in the Llandysul area, played between rival neighbouring communities. One goal would be set at the gate of Llandysul church: the other at the gate of Llanwennog church (approximately 7 miles apart)!
The stage would be set with a grand ‘communal feast’ at daybreak. However, by the 9am kick-off (and following the lively ‘liquid breakfast’), most of the participants would already be the worse for wear!
The ensuing frantic game – played cross-country with a small wooden ball – may have simply been an excuse for a chaotic New Year free-for-all, and the inevitable carnage of bloody injuries and broken limbs were simply seen as part of the Calan fun!
Dyn ni’n dysgu gyda 'Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe'
We’re learning with 'Learn Welsh - Swansea Bay Region'
Y tymor hwn, dyn ni’n benderfynol o wella ein sgiliau Cymraeg a gwneud mwy o ddefnydd o’r iaith ar draws ein clwb. Dyn ni wedi cydweithio gyda Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe, sy’n darparu gwersi Cymraeg wythnosol i staff Y Gweilch.
Ar ôl un tymor, dyn ni wedi cwmpasu’r elfennau sylfaenol (gan gynnwys llawer o derminoleg rygbi!) ac wedi gosod amcanion personol a thargedau busnes. Mae’r rhain yn cynnwys ‘deall beth sy’n cael ei ddweud pan fydd chwaraewyr yn rhoi cyfweliadau yn Gymraeg,’ ‘cynnwys mwy o Gymraeg yn ein cynnwys cyfryngau cymdeithasol,’ ac i ‘ofyn yn Gymraeg bob tro wrth baratoi y rownd de yn y swyddfa!’
Pan ymunodd y Prif Weithredwr, Lance Bradley, â’r clwb ym mis Ionawr 2024, mynegodd ddiddordeb mewn dysgu’r iaith. “Roeddwn i eisiau dangos fy mod i o ddifrif ynglŷn â’m rôl yn y Gweilch, ac roedd dysgu’r iaith yn rhan o hynny. Mae’n golygu y gallaf gysylltu â mwy o gefnogwyr a rhyngweithio â’r cyfryngau Cymraeg, sydd yn bwysig iawn i mi.”
Fe wnaeth hyn daro tant gyda llawer o aelodau eraill o’r tîm staff, yn enwedig yn yr adran Marchnata a Chyfathrebu. Rydym wedi cael cwmni tipyn o gydweithwyr oedd yn siarad Cymraeg yn swyddfa’r Gweilch dros y blynyddoedd, ond ar hyn o bryd does dim siaradwyr rhugl ar ein tîm. Er hynny, rydyn ni’n awyddus i sicrhau bod y Gymraeg yn dal i chwarae rhan bwysig yn hunaniaeth ein clwb. Wrth i’r gwersi fynd yn eu blaenau, rydyn ni eisoes yn teimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn ein cynnwys, diolch i gefnogaeth Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe am eu cefnogaeth ar ein taith i wella ein sgiliau Cymraeg ar draws y clwb,” meddai Lance. “Maen nhw wedi bod yn bartner gwych, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas ochr yn ochr â’n sgiliau iaith!”
“Mae cydweithio gyda chyflogwyr a gweithleoedd lleol yn rhan allweddol o’n cenhadaeth,” meddai Iestyn Llwyd, Pennaeth Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe. “Diolch i gyllid gan gynllun Cymraeg Gwaith Canolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, rydyn ni’n gallu cynnig hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle i ystod o sefydliadau. Mae cynghorau lleol, y Bwrdd Iechyd a’r DVLA eisoes wedi manteisio ar gyfleoedd tebyg i’w gweithluoedd.”
“Rydyn ni’n hynod falch o allu darparu’r sesiynau hyn i Lance a’i dîm o staff yn y Gweilch, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau Cymraeg ymarferol, sy’n benodol a pherthnasol i’w dyletswyddau gwaith. Ar lefel fwy strategol, rydyn ni hefyd yn gallu cefnogi’r Gweilch wrth iddyn nhw ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg nid yn unig fel modd o fynegi hunaniaeth y clwb, ond hefyd i fod yn rhan mwy gweladwy, gweithredol a naturiol o’u cyfathrebu a’u gweithgareddau bob dydd.”
Ychwanegodd Swyddog Datblygu a’r tiwtor cwrs, Emyr Jones: “Mae’r Flwyddyn Newydd yn gyfle perffaith i ymgymryd â heriau newydd, fel dysgu Cymraeg. I nodi’r bartneriaeth newydd hon, rydyn ni’n cynnig sesiwn flasu Cymraeg ar-lein am ddim i holl gefnogwyr y Gweilch Nos Fercher, Ionawr 15fed. Mae’n gyfle gwych i gymryd y cam cyntaf tuag at ddysgu, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd yn ysbrydoli cymaint o gefnogwyr rygbi â phosib i wneud 2025 yn flwyddyn unai i ddechrau dysgu neu i gymryd camau er mwyn ennill mwy o hyder i ddefnyddio eu Cymraeg.”
Yr wythnos hon, mae’r Gweilch yn wynebu’r Newcastle Falcons yn rowndiau rhagbrofol Cwpan Her EPCR. Wrth i ni felly edrych ymlaen at y gwrthdrawiad mawr yma rhwng Cymru a Lloegr, a ninnau hefyd ar drorthwy dathliadau’r Hen Galan (neu yr Hen Flwyddyn Newydd), mae’n amser perffaith i ddathlu o’r newydd ein hymrwymiad i wella ein Cymraeg.
Efallai eich bod chi eisoes wedi sylwi ein bod ni’n defnyddio mwy o Gymraeg wrth hyrwyddo’r gêm, ond fyddwn ni ddim yn gorffwys ar ein rhwyfau gyda hynny! Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol yr wythnos hon am fwy o gynnwys Cymraeg, sy’n berffaith i ddechreuwyr. Byddwn ni hyd yn oed yn manteisio ar help rhai o’n chwaraewyr i’n helpu…
Ar ddiwrnod y gêm, bydd mwy o’r Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y stadiwm, a bydd Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe gyda ni i drosglwyddo mwy o wybodaeth i gefnogwyr y Gweilch am sut y gallan nhw gymryd rhan mewn cyfleoedd i ddysgu’r iaith neu gynyddu eu hyder i’w defnyddio’n amlach.
Os oes gennych chi ddiddordeb, gallwch ddysgu mwy ar wefan Dysgu Cymraeg - Ardal Bae Abertawe () a chofrestru ar gyfer gwers flasu ar-lein arbennig i gefnogwyr Y Gweilch ar nos Fercher Ionawr 15fed am 6:30pm.
Oeddech chi’n gwybod?
Mae’r Hen Galan (neu’r Hen Flwyddyn Newydd draddodiadol) yn cael ei ddathlu ar Ionawr 12fed neu 13eg. Mae llawer o draddodiadau’n gysylltiedig â’r Calan, gan gynnwys: ymweliadau'r Fari Lwyd yn crwydro gyda’i pharti; a rhoddion Calennig yn cael eu casglu gan griwiau o blant lleol yn canu cyfarchion o ddrws i ddrws.
Hyd at y 1830au, roedd rhai defodau chwaraeon yn gysylltiedig â’r Calan hefyd, gan gynnwys chwarae ‘Cnapan’ yn rhannau o Orllewin Cymru yn arbennig – gêm fywiog a chorfforol iawn o gicio pêl (ac sy’n cael ei hystyried yn rhagflaenydd i’r gêm rygbi modern).
Roedd un enghraifft yn ardal Llandysul lle byddai cymunedau cymdogol yn cystadlu. Byddai un gôl yn cael ei osod wrth borth eglwys Llandysul; a’r llall wrth borth eglwys Llanwennog (pellter o tua 7 milltir)!
Byddai cannoedd yn cymryd rhan, a’r cyfan y cychwyn ar doriad gwawr gyda gwledd fawr gymunedol. Fodd bynnag, erbyn amser y gic gyntaf am 9am (ac ar ôl y 'brecwast gwlyb’!) byddai’r rhan fwyaf o’r chwaraewyr eisoes mewn cyflwr eithaf bregus!
Chwaraeid y gêm wyllt a ffyrnig ar draws gwlad gyda phêl bren fechan. Roedd y sgarmes fawr yma’n esgus i’r ddwy gymuned gymdogol – ar ddechrau’r flwyddyn – i guro’r esgyrn oddi ar ei gilydd (bron yn llythrennol). Roedd anafiadau gwaedlyd ac esgyrn wedi torri yn cael eu hystyried yn rhan o hwyl y Calan!