Jac

Five Ospreys named in Wales Six Nations with Jac Morgan being named as captain

Jac Morgan has been named as captain in Warren Gatland's Guinness Six Nations squad with five Ospreys making the camp.

Gareth Thomas, Sam Parry and Jac represent the forwards named, whilst Dan Edwards and Owen Watkin represent the backs from the Ospreys.

Josh Adams, Elliot Dee, Taulupe Faletau, Dafydd Jenkins, Joe Roberts and Liam Williams return having missed the Autumn Nations Series due to injury.

Two uncapped players are selected among the 19 forwards and 15 backs named today: Ospreys fly-half Dan Edwards and Scarlets wing Ellis Mee.

Another eight players are in line to make their first Six Nations appearance, including Ellis Bevan, Josh Hathaway, Eddie James, Blair Murray and Freddie Thomas who all made their international debuts in 2024.

There are also recalls for tighthead prop WillGriff John and hooker Sam Parry in a Wales squad that has an average age of 26.

Gatland said: “We’ve selected a squad that we feel has a good blend of exciting young talent and experience. 

“This group of players has a huge amount of potential and we will be working incredibly hard together this campaign. The Six Nations is a special competition full of passion and some great rivalries and we have a good challenge to start the Championship away in France. 

“I’m excited for our campaign to kick off next week and we’re looking to hit the ground running when the squad convenes. Every single training session is incredibly important in terms of our preparation for that first game and I’ll be looking to see a lot of hard work and everyone working together.

“As ever there are going to be some very disappointed players who have missed out on selection. The message to them is keep working hard because you never know what may happen.”

The 2025 Guinness Six Nations Championship officially opens on Friday 31 January as Wales face France away in Paris. This is followed by a trip to Rome to play Italy the following Saturday.

Wales then face Ireland in round three, their first home fixture of the Championship. Two weeks’ later Wales travel to Edinburgh for a match against Scotland, before concluding the 2025 edition of the competition at home at Principality Stadium against England on Saturday 15 March.

 

---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi carfan o 34 o chwaraewyr ar gyfer ymgyrch Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025. Bydd y garfan yn dod at ei gilydd yn ffurfiol ddydd Llun yr 20fed o Ionawr.

Blaenasgellwr y Gweilch Jac Morgan sydd wedi ei ddewis yn gapten.

Mae Josh Adams, Elliot Dee, Taulupe Faletau, Dafydd Jenkins, Joe Roberts a Liam Williams yn dychwelyd i’r garfan wedi i anafiadau eu hatal rhag chwarae yng Nghyfres yr Hydref. 

Mae dau o chwaraewyr sydd heb ennill cap hyd yn hyn wedi eu dewis ar gyfer yr ymgyrch – sef maswr y Gweilch Dan Edwards ac asgellwr y Scarlets Ellis Mee.

Mae wyth o chwaraewyr eraill – sydd eto i gynrychioli Cymru yn y Chwe Gwlad - wedi eu cynnwys hefyd, gan gynnwys Ellis Bevan, Josh Hathaway, Eddie James, Blair Murray a Freddie Thomas enillodd eu capiau cyntaf yn ystod 2024.

Mae’r prop pen tynn WillGriff John a’r bachwr Sam Parry wedi cael eu galw’n ôl i’r garfan – sydd ag oedran cyfartalog o 26.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Warren Gatland: “Ry’n ni wedi dewis carfan sydd â chydbwysedd a chyfuniad o brofiad a thalent ifanc hefyd.

“Mae gan y grŵp yma lawer iawn o addewid a byddwn yn gweithio hyd eitha’n gallu yn ystod yr ymgyrch hon. Mae’r Chwe Gwlad yn gystadleuaeth arbennig iawn – sy’n llawn angerdd – a bydd hynny’n bendant yn wir wrth i ni deithio i Ffrainc ar gyfer ein gêm gyntaf eleni.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael y bechgyn at ei gilydd yr wythnos nesaf. Bydd pob sesiwn ymarfer unigol yn bwysig iawn yn ein paratoadau ar gyfer her y Ffrancod. Bydd y bechgyn yn gorfod gweithio’n arbennig o galed a dangos eu bod yn gweithio gyda’i gilydd ymhob agwedd o’r ymarfer.

“Yn anffodus, bydd nifer o chwaraewyr yn siomedig nad ydyn nhw wedi cael eu cynnwys yn y garfan y tro yma – ond fy neges syml i’r unigolion hynny yw – parhewch i weithio’n galed rhag ofn bod pethau’n newid cyn neu yn ystod y Bencampwriaeth.”

Bydd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 yn dechrau’n swyddogol nos Wener yr 31ain o Ionawr pan fydd Cymru’n teithio i Ffrainc, cyn i garfan Warren wedyn deithio i herio’r Eidal y Sadwrn canlynol.

Bydd y Cymry wedyn yn croesawu Iwerddon i Gaerdydd yn nhrydedd rownd y gemau cyn teithio i Murrayfield bythefnos wedi hynny i herio’r Alban. Bydd ymgyrch Cymru yn y Bencampwriaeth yn dod i ben ar y 15ed o Fawrth pan fydd ‘Yr Hen Elyn’, Lloegr yn ymweld â Stadiwm Principality.


WALES SQUAD FOR 2025 GUINNESS SIX NATIONS | CARFAN CYMRU AR GYFER PENCAMPWRIAETH CHWE GWLAD GUINNESS 2025

Forwards (19) | Blaenwyr (19) 

Keiron Assiratti (Cardiff Rugby / Caerdydd – 10 caps)
James Botham (Cardiff Rugby / Caerdydd – 16 caps)
Elliot Dee (Dragons / Dreigiau – 51 caps) 
Taulupe Faletau (Cardiff Rugby / Caerdydd – 104 caps)
Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 19 caps)
WillGriff John (Sale Sharks – 2 caps)
Evan Lloyd (Cardiff Rugby – 5 caps)
Kemsley Mathias (Scarlets – 5 caps)
Jac Morgan (Ospreys / Gweilch – 15 caps) captain/capten
Sam Parry (Ospreys / Gweilch – 7 caps)
Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr – 23 caps)
Will Rowlands (Racing 92 – 36 caps)
Nicky Smith (Leicester Tigers / Caerlŷr – 49 caps)
Gareth Thomas (Ospreys / Gweilch – 35 caps)
Freddie Thomas (Gloucester Rugby / Caerloyw – 1 cap)
Henry Thomas (Scarlets – 4 caps)
Christ Tshiunza (Exeter Chiefs / Caerwysg – 15 caps)
Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 52 caps)
Teddy Williams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 2 caps)


Backs (15) | Olwyr (15)

Josh Adams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 59 caps)
Ellis Bevan (Cardiff Rugby / Caerdydd – 6 caps)
Dan Edwards (Ospreys / Gweilch – uncapped / heb gap)
Josh Hathaway (Gloucester Rugby / Caerloyw – 2 caps)
Eddie James (Scarlets – 3 caps)
Ellis Mee (Scarlets – uncapped / heb gap)
Blair Murray (Scarlets – 3 caps)
Joe Roberts (Scarlets – 2 caps)
Tom Rogers (Scarlets – 5 caps)
Ben Thomas (Cardiff Rugby / Caerdydd – 7 caps)
Nick Tompkins (Saracens / Saraseniaid – 38 caps)
Owen Watkin (Ospreys / Gweilch – 42 caps)
Liam Williams (Saracens / Saraseniaid – 92 caps)
Rhodri Williams (Dragons / Dreigiau – 5 caps)
Tomos Williams (Gloucester Rugby / Caerloyw – 59 caps)