Dewi Lake

Five Ospreys named in Wales squad for Autumn Internationals

Wales Senior Men’s Head Coach, Warren Gatland, named his Wales squad today for the Autumn Internationals, with five Ospreys included.

Dewi Lake will captain the side again this November having done so on the Summer Tour to Australia.

Owen Watkin represents the backs for the Ospreys, while Gareth Thomas, Dewi and Adam Beard represent the pack included in the squad.

Wales face Fiji, Australia and South Africa on consecutive weekends this November at Principality Stadium. Some tickets are still available to purchase here.

Two uncapped players are selected among the 19 forwards and 16 backs named today: second row Freddie Thomas (Gloucester Rugby) and Scarlets’ wing Blair Murray.

Adam Beard, Ryan Elias, Jac Morgan, Will Rowlands, Henry Thomas and Tomos Williams return to the squad having missed the Tests in Australia this summer due to injury or being rested.

There are also recalls for Gareth Anscombe, Max Llewellyn, Tom Rogers, Nicky Smith and Rhodri Williams, in a Wales squad that has an average age of 25.

Gatland said: “The coaches and I can’t wait to get started for this Autumn Nations Series and having the players back in camp next Monday to begin preparations for our first game against Fiji.

“We feel this is an exciting squad with some experience coming back to join the younger players. We know they are going to work incredibly hard as a group this November. 

“We have three very different opposition in Fiji, Australia and South Africa, but are looking forward to the challenges that each will pose.

“The autumn campaign is always special because we have back-to-back matches at home each weekend and there is no better place to go and play than Principality Stadium with all the passion and energy of our incredible fans.”

Regarding the captaincy, Gatland added: “I thought Dewi did a really good job with the captaincy over the summer, so we’ve decided for him to continue in the role this autumn.” 

First up Fiji make a trip to the Welsh capital on 10 November (KO 13:40). This will be the 15th Test match and 18th fixture overall between the two nations, having first met just over 60 years ago (26 September 1964) when a Wales XV won 28 – 22 at Cardiff Arms Park.

The Wallabies are the next team in town the following weekend (17 November, KO 14:10), with Wales hosting Australia in Cardiff after two Test matches down under this summer.

To close a huge Autumn Nations Series 2024, Wales take on world champions South Africa on 23 November (KO 17:40). This fixture will help mark the stadium’s 25th anniversary, having opened in the summer of 1999 with a match against South Africa as Wales celebrated their first victory against the Springboks.


---------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Mae’r Prif Hyfforddwr, Warren Gatland wedi enwi carfan o 35 o chwaraewyr ar gyfer gemau Cymru yn ystod mis Tachwedd 2024.

Bydd Cymru’n wynebu tri o dimau hemisffer y de yng Nghyfres yr Hydref 2024 sef Ffiji, Awstralia a De Affrica ar dri phenwythnos yn olynol yn Stadiwm Principality fis Tachwedd.

Wedi iddo arwain Cymru ar y daith i Awstralia dros yr haf – bydd Dewi Lake yn parhau’n gapten ar y garfan ar gyfer Cyfres yr Hydref.

Mae dau o chwaraewyr sydd heb eto ennill cap wedi eu dewis ymhlith y garfan sy’n cynnwys 19 o flaenwyr ac 16 o olwyr. 

Freddie Thomas (ail reng, Caerloyw) a Blair Murray (asgellwr, Scarlets) yw’r ddau sydd eto i gynrychioli eu gwlad.

Er na deithion nhw i Awstralia dros yr haf o ganlyniad i anafiadau neu adferiad, mae Adam Beard, Ryan Elias, Jac Morgan, Will Rowlands, Henry Thomas a Tomos Williams yn dychwelyd i’r garfan.

Mae Gareth Anscombe, Max Llewellyn, Tom Rogers, Nicky Smith a Rhodri Williams, hefyd wedi eu galw i’r garfan unwaith eto – carfan sydd ag oedran cyfartalog o 25.

Dywedodd Warren Gatland: “Ry’n ni fel tîm hyfforddi’n edrych ymlaen yn fawr at y gemau hyn ac ‘ry’n ni’n awchu at gael yr holl garfan gyda’i gilydd o ddydd Llun ymlaen wrth i ni baratoi i wynebu Ffiji.

“Mae’r garfan hon yn fy nghyffroi. Mae gennym gydbwysedd da o ieuenctid a phrofiad ac ‘ry’n ni’n gwybod eu bod am weithio’n arbennig o galed yn ystod mis Tachwedd.

“Bydd Ffiji, Awstralia a De Affrica’n cynnig heriau gwahanol iawn i ni – a bydd hynny’n gyffrous ac yn werthfawr i ni fel carfan. 

“Mae gemau Cyfres yr Hydref watad yn arbennig gan ein bod yn cael chwarae er ein tomen ein hunain ar benwythnosau olynol – a ‘does unman gwell i chwarae nac yn awyrgylch arbennig Stadiwm Principality o flaen ein cefnogwyr angerddol ein hunain.”

O safbwynt y gapteiniaeth, ychwanegodd Warren Gatland: “Fe wnaeth Dewi waith arbennig fel capten dros yr haf, ac felly ‘ry’n ni wedi penderfynu rhoi’r cyfle iddo barhau i’n harwain yr Hydref yma.”

Bydd Ffiji yn ymweld â Chaerdydd am y tro cyntaf ers 2021, ddydd Sul y 10fed o Dachwedd - gwta 14 mis ers i’r ddau dîm wynebu’i gilydd mewn clasur o ornest yng ngemau grŵp Cwpan y Byd yn Ffrainc y llynedd. Bydd y gic gyntaf am 13.40.

Bydd tocynnau ar gael am £20,£30 & £40 gyda thocynnau hanner pris ar gyfer y rhai o dan 18 oed. Mae'r cynllun prisio newydd hwn ar gael ar gyfer y tair gêm - ac ar gyfer unrhyw sedd - ac felly bydd modd i deulu o bedwar wylio'r ornest hon am £60.

Wythnos yn ddiweddarach bydd Cymru’n croesawu’r ‘Wallabies’ i’r Brifddinas am 16.10, fisoedd yn unig wedi i garfan Warren Gatland chwarae dwy gêm brawf yn Awstralia ym mis Gorffennaf.

Prisiau ar gyfer y tocynnau yma fydd £30, £40 & £60 sy'n golygu y gall teulu o bedwar wylio'r gêm am £90.

Pencampwyr presennol y Byd, De Affrica fydd gwrthwynebwyr olaf Cymru o’r gyfres am 17.40, ddydd Sadwrn y 23ain o Dachwedd. 

Bydd bechgyn Warren Gatland yn croesawu De Affrica i Stadiwm Principality chwarter canrif wedi iddynt chwarae yn y gêm gyntaf erioed yng nghartref newydd Rygbi Cymru. Y Crysau Cochion enillodd yr ornest gyntaf honno ar y 26ain o Fehefin 1999 ac felly bydd eu herio 25 mlynedd wedi hynny’n uchafbwynt arbennig a hanesyddol i Gyfres yr Hydref eleni.

Prisiau'r tocynnau ar gyfer yr ornest hon fydd £50, £70 a £90 fel y gall teulu o bedwar fod yno'n cefnogi Cymru am £150. 


Forwards (19)
Keiron Assiratti (Cardiff Rugby / Caerdydd – 7 caps)
Adam Beard (Ospreys / Gweilch – 56 caps)
James Botham (Cardiff Rugby / Caerdydd – 13 caps)
Ben Carter (Dragons / Dreigiau – 12 caps)
Ryan Elias (Scarlets – 41 caps)
Archie Griffin (Bath Rugby – 3 caps)
Dewi Lake (Ospreys / Gweilch – 15 caps) Captain / Capten
Evan Lloyd (Cardiff Rugby – 5 caps)
Kemsley Mathias (Scarlets – 4 caps)
Jac Morgan (Ospreys / Gweilch – 15 caps)
Taine Plumtree (Scarlets – 5 caps)
Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr – 20 caps)
Will Rowlands (Racing 92 – 33 caps)
Nicky Smith (Leicester Tigers / Caerlŷr – 46 caps)
Gareth Thomas (Ospreys / Gweilch – 33 caps)
Freddie Thomas (Gloucester Rugby / Caerloyw – uncapped / heb gap)
Henry Thomas (Scarlets – 4 caps)
Christ Tshiunza (Exeter Chiefs / Caerwysg – 12 caps)
Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 50 caps)


Backs (16)
Gareth Anscombe (Gloucester Rugby / Caerloyw – 37 caps)
Ellis Bevan (Cardiff Rugby / Caerdydd – 3 caps)
Sam Costelow (Scarlets – 15 caps)
Rio Dyer (Dragons / Dreigiau – 22 caps)
Mason Grady (Cardiff Rugby / Caerdydd – 14 caps)
Josh Hathaway (Gloucester Rugby / Caerloyw – 1 cap)
Eddie James (Scarlets – 1 cap)
Max Llewellyn (Gloucester Rugby / Caerloyw – 1 cap)
Blair Murray (Scarlets – uncapped / heb gap)
Tom Rogers (Scarlets – 4 caps)
Ben Thomas (Cardiff Rugby / Caerdydd – 4 caps)
Nick Tompkins (Saracens / Saraseniaid – 38 caps)
Owen Watkin (Ospreys / Gweilch – 41 caps)
Rhodri Williams (Dragons / Dreigiau – 3 caps)
Tomos Williams (Gloucester Rugby / Caerloyw – 58 caps)
Cameron Winnett (Cardiff Rugby / Caerdydd – 7 caps)