Three Ospreys have been named in the Wales squad to face France at Principality Stadium in the fourth round of the 2024 Guinness Six Nations on Sunday 10 March (KO 3pm live on BBC and S4C).
Owen Watkin gets the start at centre, while Gareth Thomas and Adam Beard both start in the pack.
Captain Dafydd Jenkins is named at blind-side flanker with Will Rowlands making his first start of the 2024 Six Nations alongside Adam Beard in the second row.
Hooker Ryan Elias starts his second match of this Championship.
Joe Roberts will win his second senior international cap on the weekend, he partners Owen Watkin in the midfield.
Among the replacements hooker Elliot Dee is in line to win his 50th cap for Wales from the bench. Gareth Davies is also named in the match day 23 as scrum half cover.
Gatland said: “Gatland said: “There are a few changes to the team this week as there are some players that deserve an opportunity.
“It’ll be a tough, physical challenge from France on Sunday particularly up front. We know they will start hard and it’s about us staying in the fight, having good line speed defensively and keeping our discipline. We’re looking for an 80 minute performance.
“We’re excited to be back at home for our last two matches and looking forward to getting out in front of a passionate Welsh crowd this weekend.”
-----------------------------------------------------------------------------------------------
Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi ei dîm i herio Ffrainc ym mhedwaredd rownd Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2024 ddydd Sul y 10fed o Fawrth. (3pm yn fyw ar S4C a’r BBC).
Mae’r capten Dafydd Jenkins wedi ei enwi ar ochr dywyll y rheng ôl sy’n creu lle i Will Rowlands ddechrau ei gêm gyntaf o Bencampwriaeth eleni yn yr ail reng. Adam Beard yw’r clo arall.
Mae Ryan Elias wedi ei enwi’n fachwr a bydd yn dechrau ei ail gêm o’r ymgyrch.
Bydd Joe Roberts yn ennill ei ail gap rhyngwladol ddydd Sul a’i bartner yng nghanol cae fydd Owen Watkin.
Ymhlith yr eilyddion – mae’r bachwr Elliot Dee yn debygol o ennill ei 50fed cap ac mae’r mewnwr Gareth Davies wedi ei gynnwys yng ngharfan y gêm unwaith eto.
Dywedodd Warren Gatland: “Mae ambell newid yr wythnos hon gan bod rhai chwaraewyr yn haeddu cael cyfle a munudau ar y maes.
“Does dim amheuaeth y bydd y gêm yr arbennig o gorfforol – yn enwedig felly ymhlith y blaenwyr. Bydd Ffrianc yn bendant yn ceisio dechrau’r gêm ar garlam ac yn hynod galed hefyd.
“Bydd yn rhaid i ni wneud yn siwr ein bod ni’n gorfforol, yn gyflym ac yn ddisgybledig o’r chwiban gyntaf. Unwaith eto ry’n ni’n edrych am berfformiad 80 munud.
“Mae’r garfan yn gyffrous am y ffaith ein bod yn chwarae ein dwy gêm olaf yn Stadiwm Principality o flaen ein cefnogwyr angerddol.”
Wales senior men’s team to play France at Principality Stadium, Cardiff in the Guinness Six Nations, Sunday 10 March KO 3pm GMT. Live on BBC and S4C.
Tîm Cymru v Ffrainc – Stadiwm Principality – Sul y 10fed o Fawrth am 3pm
Yn Fyw ar S4C a’r BBC
15. Cameron Winnett (Cardiff Rugby / Caerdydd – 3 caps)
14. Josh Adams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 57 caps)
13. Joe Roberts (Scarlets – 1 cap)
12. Owen Watkin (Ospreys / Gweilch – 37 caps)
11. Rio Dyer (Dragons / Dreigiau – 17 caps)
10. Sam Costelow (Scarlets – 10 caps)
9. Tomos Williams (Cardiff Rugby / Caerdydd – 56 caps)
1. Gareth Thomas (Ospreys / Gweilch – 28 caps)
2. Ryan Elias (Scarlets – 41 caps)
3. Keiron Assiratti (Cardiff Rugby / Caerdydd – 5 caps)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 31 caps)
5. Adam Beard (Ospreys / Gweilch – 54 caps)
6. Dafydd Jenkins (Exeter Chiefs / Caerwysg – 15 caps) Captain / Capten
7. Tommy Reffell (Leicester Tigers / Caerlŷr – 16 caps)
8. Aaron Wainwright (Dragons / Dreigiau – 46 caps)
Replacements
16. Elliot Dee (Dragons / Dreigiau – 49 caps)
17. Corey Domachowski (Cardiff Rugby / Caerdydd – 9 caps)
18. Dillon Lewis (Harlequins – 55 caps)
19. Alex Mann (Cardiff Rugby / Caerdydd – 3 caps)
20. Mackenzie Martin (Cardiff Rugby / Caerdydd – 1 cap)
21. Gareth Davies (Scarlets – 75 caps)
22. Ioan Lloyd (Scarlets – 5 caps)
23. Mason Grady (Cardiff Rugby / Caerdydd – 9 caps)